Cyllid a Thollau EF - Cyfieithydd

Cardiff, Cardiff
Apply Now

Crynodeb o'r swydd

Datblygwch eich gyrfa gyda CThEF. A ydych chi’n chwilio am bwrpas, am gyfle i dyfu, neu am weithle sydd wir yn rhoi ymdeimlad o berthyn? Gwrandewch ar rai o’n cyflogeion yn rhannu eu profiadau o weithio yn CThEF.

Dewch i’n  i wylio’r gyfres gyfan a darganfod eich potensial. Yn CThEF, rydym wedi ymrwymo i greu gweithle gwych i’n holl gyflogeion; amgylchedd cynhwysol a pharchus sy’n adlewyrchu amrywiaeth y gymdeithas rydym yn ei gwasanaethu.

Rydym eisiau helpu pawb sy’n dewis gweithio i ni i gyflawni eu holl botensial, ac rydym yn cynnig amrywiaeth o batrymau gwaith hyblyg yn ogystal â chymorth er mwyn i chi gael gyrfa sy’n rhoi boddhad i chi yn CThEF.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.

Mae’r Uned Gymraeg yn rhan o adran ehangach y Prif Swyddog Gwybodaeth a Gwasanaethau Digidol sy’n gweithio, ar hyn o bryd, tuag at y gweddnewid digidol mwyaf yn hanes y llywodraeth. Dyna pam mae hi’n amser gwych i ymuno â CThEF.

Yr hyn sy’n ein gwneud yn wahanol i bawb arall yw ein hymroddiad i roi gwasanaeth o’r radd flaenaf, yn ogystal ag ymgysylltu â’n gweithlu a’i wella ar hyd y ffordd. Byddwch yn cael hyfforddiant llawn, a byddwn yn eich cynorthwyo ar hyd llwybr eich gyrfa yn y Gwasanaeth Sifil.

Swydd ddisgrifiad
Rydym am recriwtio unigolion brwdfrydig a chryf eu cymhelliad i ymuno â’r Uned Gymraeg yng Nghaerdydd neu Borthmadog. Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o dîm croesawgar, ac i ddefnyddio’ch sgiliau a’ch profiad presennol i gynhyrchu cyfieithiadau o’r radd flaenaf a helpu i ddatblygu gwasanaethau Cymraeg i CThEF.

Mae dyletswyddau’r rôl yn cynnwys defnyddio pecynnau meddalwedd modern i gynorthwyo wrth gyfieithu dogfennau amrywiol mewn sawl fformat electronig gwahanol, yn ogystal â thrafod a helpu i benderfynu ar derminoleg ac arddull ysgrifennu newydd. Bydd cyfleoedd rheolaidd hefyd i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o brosiectau cyfieithu. Bydd hyn yn ehangu’ch profiad o reoli cwsmeriaid a’r hyn y maent yn galw amdano, yn gloywi’ch sgiliau mewn perthynas â meddalwedd cyfieithu a therminoleg cyfieithu, ac yn egluro sut rydym yn darparu ein gwasanaethau Cymraeg. Byddwch yn dilyn rhaglen hyfforddi gynhwysfawr a strwythuredig, a fydd yn eich helpu i ddatblygu ystod o’r sgiliau hyn.

I helpu gyda hyn, bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, gallu cynhyrchu cyfieithiadau o’r radd flaenaf, a bod yn flaengar gan ddangos agwedd bositif a pharodrwydd i ddysgu.

Manyleb bersonol

Bydd y cyfrifoldebau’n cynnwys y canlynol:

Cyfieithu deunydd CThEF – mewn modd sy’n bodloni safonau o’r radd flaenaf a dyddiadau cau y cytunir arnynt – gan gynnwys gohebiaeth, ffurflenni, taflenni, cynnwys ar y we a gwasanaethau ar-lein, yn ogystal â gwybodaeth i weinidogion.

Prawf-ddarllen cyfieithiadau cydweithwyr, a rhai eich hun, yn brydlon - gan bob amser ystyried yr holl ddyddiadau cau.

Gwneud defnydd llawn a phriodol o’n meddalwedd cof cyfieithu - Trados - gan sicrhau ei bod yn cael ei llenwi â chyfieithiadau o safon (byddwch yn cael hyfforddiant).

Cynorthwyo wrth ymchwilio i derminoleg a ddefnyddir mewn ystod eang o bynciau a’i hamgyffred, gan ddiweddaru a gwella eich gwybodaeth ieithyddol a thechnegol yn ôl y gofyn.

Chwilio am gyfleoedd i roi’r gwasanaeth gorau posibl i’n cwsmeriaid, a’r Adran, drwy fod yn hyblyg wrth ymdrin â blaenoriaethau gwaith newydd a newidiol, a thrwy gynhyrchu cyfieithiadau yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol.

Ymdrechu i wella safon ein gwasanaethau - gan ddilyn yr egwyddor o ystyried y cwsmer yn gyntaf ar bob achlysur - a gan bwysleisio pwysigrwydd profiad y cwsmer wrth ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg CThEF.

Meini Prawf Hanfodol:

Bydd gennych:

Sgiliau iaith rhagorol (Cymraeg a Saesneg).

Gradd yn y Gymraeg neu gymhwyster Cymraeg cyfatebol neu brofiad o gyfieithu i’r Gymraeg.

Dylech hefyd fod â gwybodaeth gadarn a phrofiad o’r canlynol:

Prosesau, meddalwedd ac adnoddau cyfieithu Cymraeg (ar bapur yn ogystal ag ar-lein).

Blaenoriaethu llwythi gwaith a chyfathrebu’n effeithiol.

Gofynion cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.

Meini Prawf Dymunol:

Bod yn Aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (Saesneg i’r Gymraeg).

Gwybodaeth gadarn am y gwahanol fformatau y mae angen cyfieithiadau Cymraeg (e.e. Word, Excel, PDF, HTML, ac ati).

Ymddygiadau

Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses ddethol:

Cyfathrebu a Dylanwadu

Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd

Cyflawni’n brydlon

Sgiliau technegol

Byddwn yn eich asesu yn erbyn y sgiliau technegol hyn yn ystod y broses ddethol:

Sgil Technegol - Cyfieithu i’r Gymraeg

Prawf Ysgrifenedig - Cyfieithu i’r Gymraeg

Job Info
CV-Library logo
Job Title:
Cyllid a Thollau EF - Cyfieithydd
Company:
CV-Library
Location:
Cardiff, Cardiff
Salary:
£28341 Per annum
Posted:
Aug 21st 2024
Closes:
Sep 21st 2024
Sector:
Public Sector
Contract:
Permanent
Hours:
Full Time
Fresh Jobs
Welcome to Fresh Jobs the place to find the freshest job vacancies and career advice.

© Copyright 2024 | All Rights Reserved Fresh Jobs